Adnoddau Addysg Y Soddgarŵ
£0.00
Gweithgareddau dysgu i gyd-fynd â’r llyfr stori swynol Y Soddgarŵ. Taflen syniadau sbardun a dwy daflen weithgaredd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed. Camwch i fyd y Soddgarŵ llwglyd gan ddefnyddio’r gweithgareddau amrywiol yma.
Mae cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau creadigol a dychymygus wrth gwblhau’r gweithgareddau dysgu yma. Yn ogystal â hyn, mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd a mathemateg a rhifedd. Byddan nhw’n cael profiad o fod yn ddarlunwyr eu hunain, yn debyg i enillydd cystaedluaeth yr Urdd a’r Cyngor Llyfrau, Lily Mŷrennyn sydd wedi darlunio’r stori yma i gyd-fynd â thestun a ysgrifennwyd gan yr awdur talentog, Manon Steffan Ros.
Mae’r gweithgareddau’n cyffwrdd â meysydd dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, y Dyniaethau, Iechyd a Lles a’r Celfyddydau Mynegiannol. Mae logo’r Maes Dysgu a Phrofiad yn cael ei nodi ar y taflenni.
Gwybodaeth Ychwanegol
Age | Ages 7-9, Under 7 |
---|---|
Cyhoeddwr | Atebol |
You must be logged in to post a review.
Adolygiadau
Nid oes unrhyw adolygiadau eto.