Aber Afon Dyfi – Hanes Darluniadol (Welsh)
£18.00
Mae golwg dangnefeddus a digyfnewid ar aber afon Ddyfi ond mae’r gyfrol yma’n sôn am stori wahanol a dramatig. Mae’r aber wedi gweld byddinoedd, stadau mawrion, canolfan masnach forol, diwydiant gwlân o bwys, porthmyn a physgota am eogiaid a phenwaig ynghyd â mwyngloddfeydd a chwareli o fri rhyngwladol. Erbyn hyn, ffermio defaid, cadwraeth a thwristiaeth a geir yn bennaf yn ei thirwedd ôl-ddiwydiannol.
Y llyfr hynod ddarllenadwy yma yw’r cyntaf i ddweud y stori gyfan. Cydymaith hanfodol fydd hi i bawb sy’n nabod ac yn ymweld â Bro Ddyfi. Gyda’i ddiwyg cain, mae’n cynnwys 160 o ddarluniau o fapiau, paentiadau, arluniau a ffotograffau. Mae’n gosod hanes lleol yr aber a’i chyffiniau o’r môr i Fachynlleth mewn cyd-destun ehangach o lawer dros filoedd o flynyddoedd fel canolfan strategol i Gymru a masnach Ewropeaidd.
Ceir adrannau sy’n ymdrin â daearyddiaeth, teithio, hanes, trefi a phentrefi ac sy’n bwrw golwg dros ffermio, coedwigaeth, pysgota, diwydiannau, masnach a thai hanesyddol.
Richard Mayou oedd yr Athro Seiciatreg ac yn Gymrodor yng Ngholeg Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen ac erbyn hyn mae wedi ymddeol. Mae wedi ymweld â Bro Ddyfi bob blwyddyn o’i fywyd er 1952 gan aros mewn tŷ sy’n eiddo i’r teulu ar fin yr aber rhwng Aberdyfi a Phennal.
Mae o’n ymwelydd cyson â’r Tabernacl ac yn gefnogwr gwerthfawr i waith yr Ymddiriedolaeth. Dyma ail gyfrol Richard sy’n edrych ar hanes lleol. Cyhoeddwyd y gyntaf, Shabbington: A Thousand Years of Village History yn 2015 gan ymchwilio i’r pentref yn Swydd Buckingham lle bu yntau a’i ddiweddar wraig Ann yn byw am 25 mlynedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Author(s) | |
---|---|
Pages | |
Format |