POLISI PREIFATRWYDD APIAU
Mae’r polisi preifatrwydd a’r telerau defnyddio sydd wedi’u nodi yma yn berthnasol i bob ap symudol a gaiff ei gyhoeddi ar Goole Play Store, Apple Store ac Amazon Store gan Atebol.
Trwy osod yr apiau hyn ar eich dyfais symudol, rydych chi’n cytuno i’r polisi preifatrwydd a’r telerau defnyddio sydd yn y ddogfen hon.
Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau hyn, peidiwch â gosod yr apiau hyn ar eich dyfais symudol.
Nid yw apiau Atebol yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.
Mae unrhyw apiau sydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair i fewngofnodi i’r ap yn amgryptio ac yn storio’r wybodaeth hon ar y ddyfais. Nid oes gan Atebol fynediad i’r wybodaeth hon.
Mae rhai o’n apiau yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Unity Game Engine. Efallai y bydd yr injan gêm yma’n casglu gwybodaeth am y ddyfais. Gall hyn gynnwys gwahanol ddynodwyr unigryw, fel IDFA, ID Ad Android, IDFV, cyfeiriad MAC ar gyfer rhai gwasanaethau.
Nid yw Atebol yn defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau hyn, felly nid yw’r wybodaeth hon yn gadael eich dyfais.
Am ragor o wybodaeth, gweler polisi preifatrwydd Unity3D.
Mae unrhyw hawlfraint ar unrhyw gynnwys, gan gynnwys elfennau sain, ysgrifenedig a gweledol ac unrhyw feddalwedd sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglenni hyn, yn eiddo i Atebol neu wedi’i drwyddedu iddo.