POLISI CWCIS
GWYBODAETH AM EIN DEFNYDD O GWCIS
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefan a hefyd yn ein galluogi i wella ein gwefan.
Ffeil fach o lythrennau a rhifau rydym yn eu storio ar eich porwr neu yriant caled eich cyfrifiadur yw cwci, os ydych chi’n cytuno. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur.
Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol:
- Cwcis hollol angenrheidiol. Cwcis yw’r rhain sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu ein gwefan. Maent yn cynnwys, er enghraifft, cwcis sy’n eich galluogi i fewngofnodi i fannau diogel o’n gwefan, defnyddio cart siopa neu ddefnyddio gwasanaethau e-filio.
- Cwcis dadansoddol/perfformiad. Maent yn ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr ac i weld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefan pan fyddant yn ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano’n hawdd.
- Cwcis ymarferoldeb. Defnyddir y rhain i’ch adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan. Mae hyn yn ein galluogi i bersonoli ein cynnwys ar eich rhan, eich cyfarch yn ôl eich enw a chofio eich dewisiadau (er enghraifft, eich dewis o iaith neu ranbarth).
- Cwcis targedu. Mae’r cwcis hyn yn cofnodi eich ymweliad â’n gwefan, y tudalennau rydych wedi ymweld â nhw a’r dolenni rydych wedi’u dilyn. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud ein gwefan a’r hysbysebu a ddangosir arno yn fwy perthnasol i’ch diddordebau. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon at y diben hwn.
[Sylwer y gall trydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, rhwydweithiau hysbysebu a darparwyr gwasanaethau allanol fel gwasanaethau dadansoddi traffig ar y we) hefyd ddefnyddio cwcis, nad oes gennym reolaeth drostynt. Mae’r cwcis hyn yn debygol o fod yn gwcis dadansoddol/perfformiad neu’n gwcis targedu].
Rydych chi’n rhwystro cwcis drwy actifadu’r gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod gosodiad pob cwci neu rai ohonynt. Er hynny, os ydych yn defnyddio gosodiadau eich porwr i rwystro pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad i bob rhan o’r wefan neu rannau ohoni.