Atebol ydyn ni
Rydyn ni’n creu cynnwys er mwyn agor drysau – drysau i ddysgu, i hwyl, i gyffro ac i ddealltwriaeth.
Rydyn ni’n gwneud tri pheth allweddol…
Rydyn ni’n cyhoeddi gwaith gan awduron a darlunwyr o’r radd flaenaf, gan ddod â’u straeon i gynulleidfaoedd newydd i’w mwynhau yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.
Rydyn ni’n meithrin dysgu amlieithog, gan gynhyrchu adnoddau i ysbrydoli yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref, mewn bywydau bob dydd.
Ac rydyn ni’n helpu sefydliadau i adrodd eu straeon yn dda, gan weithio mewn ieithoedd amrywiol ac ar draws nifer o sianelau: ar bapur, ar-lein ac ar sgrin.
Ar Bapur
- Rydyn ni’n cyhoeddi tua 60 o lyfrau bob blwyddyn. Rhai yn Gymraeg, rhai yn Saesneg, rhai’n ddwyieithog. Rydyn ni hyd yn oed wedi ennill gwobrau.
- Rydyn ni’n cyfieithu dros 12 miliwn o eiriau’r flwyddyn mewn nifer o wahanol ieithoedd i’n cleientiaid.
- Rydyn ni’n darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddi a dylunio graffig.
Ar-lein
- Rydyn ni’n datblygu gwefannau dwyieithog i alluogi ein cleientiaid i rannu eu cynnwys yn greadigol ac yn glir.
- Rydyn ni’n cynhyrchu apiau a gemau ar-lein i wneud dysgu’n hwyl; ni yw’r datblygwr apiau cyfrwng Cymraeg mwyaf.
- Rydyn ni’n diweddaru testun gwefannau cleientiaid, yn aml yn uniongyrchol ar eu systemau rheoli cynnwys yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ar Sgrin
- Rydyn ni’n isdeitlo rhaglenni teledu S4C, a chynnwys arall ar sgrin – gan ei wneud yn hygyrch i eraill.
- Rydyn ni’n cynhyrchu fideos i ddod â’ch cynnwys a’ch straeon yn fyw.
- Rydyn ni’n cyfieithu cynnwys creadigol mewn llawer o wahanol ieithoedd, yn ogystal â darparu llawer o wasanaethau eraill fel gwasanaethau trawsgrifio fideo, a sain.
Mewn Bywydau Bob Dydd
- Rydyn ni’n addysgu ac yn ysbrydoli plant, pobl ifanc ac oedolion drwy ein llyfrau, ein gemau a’n hadnoddau digidol.
- Rydyn ni’n dod â’r Gymraeg yn fyw mewn cartrefi ac ystafelloedd dosbarth, gan ei gwneud yn hygyrch ble bynnag y boch.
Sut rydyn ni’n mynd ati
Rydyn ni am i’n gwaith wirioneddol siarad â’r bobl mae’n ei gyrraedd – felly rydyn ni’n ei wneud yn fywiog, yn gynhwysol ac yn bersonol, boed yn llyfr neu’n adroddiad busnes, neu unrhyw beth rhwng y ddau.
Beth sy’n bwysig i ni
Rydyn ni’n cefnogi cymunedau lleol a'r ifanc
Darparu cyfleoedd iddyn nhw weithio mewn meysydd creadigol a chyffrous yng Nghymru.
Rydyn ni’n deulu
Mae gofalu am sut rydyn ni’n gwneud pethau yr un mor bwysig â’n llwyddiant masnachol.
Rydyn ni'n fywiog
Does ganddon ni ddim ofn meddwl mewn ffordd wahanol fydd yn mynd â ni i leoedd newydd.
Rydyn ni’n credu bod dysgu’n hwyl
Mae’n agor drysau i’r dychymyg ac i gyfleoedd.
Rydyn ni’n graff
Daw gwaith gwych o ddealltwriaeth ddofn.
Aberystwyth Caerfyrddin Caerdydd
Ers agor drysau ein swyddfa yn Aberystwyth yn 2003, rydyn ni bellach wedi ehangu ac mae gennym dîm gwych o fwy na 40 yn gweithio yn ein tair swyddfa. Mae gennym hefyd ddwsinau o aelodau tîm yn gweithio o’u cartrefi eu hunain ledled Cymru.
Rydyn ni’n gyhoeddwyr blaengar ac yn gwmni amlgyfrwng sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Dechreuodd y cwmni yn 2003 fel arbenigwr deunyddiau addysgol i gefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol ac astudiaethau academaidd pellach, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dysgu’n dal i fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Heddiw, rydyn ni’n adnabyddus am ein hymagwedd fywiog, flaengar at gynnwys, nid yn unig yn Gymraeg ond mewn ieithoedd eraill hefyd. Cynnwys ar gyfer addysg, ar gyfer busnesau, ac ar gyfer teuluoedd, drwy lyfrau a thu hwnt, i’r byd amlgyfrwng. Creu cynnwys anhygoel sydd bwysicaf, beth bynnag fo’r cyfrwng. Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflawni gwaith sy’n ei hymestyn ac yn ein hysbrydoli ni a’r rhai rydyn ni’n eu cyrraedd; ac yn creu swyddi ysbrydoledig i bobl ar draws ein cymunedau yn y broses. Atebol ydyn ni.
Ar Bapur. Ar-lein. Ar Sgrin. Mewn Bywydau Bob Dydd.
Brandiau ein cwmni
Ein brandiau teitlau cyhoeddi
Y ffocws ar safon
Sicrhau Ansawdd
Mae gan y cwmni systemau sicrhau ansawdd sydd wedi’u cofnodi.
Achrediad allanol ar gyfer ISO9001, sy’n profi ein hymrwymiad tuag at reoli gwaith yn effeithlon.
Cwmni Cydnabyddiedig gyda Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Ymdrinnir ag unrhyw faterion ail-weithio a allai godi trwy ein Polisi Ansawdd, ein Poisi Cwynion a’n Siarter Cleintiaid.
Dwylo Diogel a Chyfrifoldebau Ehangach
Mae’r cwmni yn ymrwymo’n llwyr ac yn cydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg, drwy ein Polisi Iaith Gymraeg.
Mae gan y cwmni bolisïau pendant o ran yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Rydym wedi ein achredu gan Green Dragon.
Mae gan y cwmni werthoedd craidd o ran datblygiad cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal, yn ogystal â gwerthoedd busnes allweddol o ran y modd y mae’n ymdrin â thegwch, gonestrwydd, effeithlonrwydd a phroffesiynoldeb.
Mae’r cwmni yn cydymffurfio â Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (RGDC / GDPR) a/neu unrhyw reoliadau deddfwriaethol dilynol, cyfarwyddebau neu ganllawiau sy’n ymwneud â diogelu, casglu, storio, cyflenwi a rhyddhau unrhyw ddata personol.
Mae’r cwmni wedi’i ardystio o ran diogelwch ar y we (Cyber Essential Plus Certified).
Rydym yn gwarantu y byddwn, wrth ddarparu’r Gwasanaethau, yn cydymffurfio â’r holl ddyletswyddau a osodir arno gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, ac â’r holl reoliadau statudol eraill sy’n berthnasol i’r gwasanaethau ac i bob safle gwaith.