Addysgol
Cyfoeth o adnoddau dwyieithog sy’n tanio brwdfrydedd a chariad at addysgu a dysgu.
Y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru
Rydyn ni’n gwbl ymroddedig i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu i fod yn unigolion sy’n mwynhau ac yn awchu i ddysgu a bod ein hadnoddau’n gallu sbarduno, cynorthwyo a chynnal addysgwyr wrth gefnogi dysgwyr i fod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Pwrpas y 6 logo unigryw Atebol ar gyfer Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru yw hwyluso’r broses o gynllunio a chwrdd ag anghenion pob dysgwr. Bydd y logos unigryw yma’n cael eu harddangos a’u defnyddio ar ein hadnoddau addysg.
Atebol ©
2024Digonedd o fideos hwyliog sy’n rhannu fersiynau llafar unigryw o straeon poblogaidd Atebol. Cyfle gwych i blant y Cyfnod Sylfaen a thu hwnt i fwynhau straeon yn yr iaith Gymraeg. Mae modd i ddysgwyr wrando’n annibynnol yn yr ysgol neu yn y cartref gyda theulu. Mae’n adnodd arbennig i ddatblygu ymwybyddiaeth o eirfa Gymraeg. Mae rhywbeth at ddant pawb!
Adnoddau Addysgol Atebol
Prif nod ein hadnoddau addysgol yw sicrhau eu bod yn apelgar, yn gyfoes ac o’r radd flaenaf. Ein gobaith yw bydd ein hadnoddau a’n cynlluniau gwersi yn sbarduno, yn cynorthwyo ac yn ysgogi ymarferwyr wrth iddyn nhw gyflwyno gwersi a gweithgareddau pwrpasol a chyffrous i ddysgwyr. Cymerwch gipolwg ar ein hadnoddau sy’n cwrdd ag anghenion dysgwyr a gofynion y Meysydd Dysgu a Phrofiad o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
Archwiliwch yr amrywiaeth o adnoddau addysgol o gardiau Sbardun Cyfnod Sylfaen i lyfrau BTEC Busnes a Chyfrifiadureg. Rydyn ni’n darparu adnoddau addysgol blaengar ar gyfer dysgwyr o Gam Cynnydd 1 i 5 yn yr ysgol ac yn y cartref.
Llawer mwy i’w ddarganfod yn y siop!
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Sgiliau Cymdeithasol
Cyfres o apiau sy’n cefnogi a datblygu sgiliau cymdeithasol dysgwyr ag awtistiaeth, gan gynnwys Syndrom Asperger. Cliciwch yma ar gyfer archwilio’r dewis helaeth o sefyllfaoedd bywyd bob dydd, megis ateb y ffôn a sut i ofyn am gymorth yn y dosbarth.
Dyslecsia
Er mwyn helpu pob dysgwr i ddatblygu cariad at ddarllen, mae’r adnodd ‘O Gam i Gam’ yn cyflwyno’r Gymraeg i ddisgyblion dyslecsig ac i eraill sydd ag anawsterau darllen a sillafu.
Mae’r gyfres boblogaidd ‘Ar Bigau’ wedi ei datblygu’n benodol ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau ac yn cyflwyno themâu cyfoes er mwyn ennyn diddordeb pob darllenwr.
Braille
Rydyn ni’n hynod o gyffrous i gyhoeddi argraffiad ‘Saith Selog’ ar gyfer ein darllenwyr Braille. Cyfle i ddysgwyr dall neu gyda nam ar y golwg i fwynhau a phrofi llenyddiaeth yn y Gymraeg. Cawsom wobr gyntaf ynghyd â’r RNIB ar lwyfan rhyngwladol yn Efrog Newydd am lyfr sain un o deitlau David Walliams yn y Gymraeg.
Adnoddau am Ddim
Dewch i bori drwy’r casgliad o adnoddau sy’n cwrdd ag anghenion dysgwyr ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Archwiliwch yr apiau, y tasgau cyfoethog a’r gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’n llyfrau straeon poblogaidd ynghyd â dogfennau a gwybodaeth ddefnyddiol. Manteisiwch ar yr adnoddau dwyieithog safonol sydd yn datblygu sgiliau llafar, creadigol, rhifedd ac iechyd a lles dysgwyr.
Gallwch ddewis a dethol adnoddau a’u rhannu gyda dysgwyr er mwyn atgyfnerthu dysgu yn y cartref. Mae pob un adnodd yma’n rhad ac am ddim ac yn addas ar gyfer dysgwyr Cyfnod Sylfaen, CA2 a CA3.
Apiau
Gwefannau
Dogfennau
Hyfforddiant a chefnogaeth
Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth pwrpasol ar gyfer cefnogi, cynnal a datblygu addysgwyr yn broffesiynol sy’n sicrhau’r defnydd gorau posib o’r adnoddau ac addysgu a dysgu gafaelgar.
Gwiriwch a allwch chi wneud copi o adnodd Atebol!
Beth yw e?
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) yn symleiddio hawlfraint ar gyfer defnyddwyr cynnwys. Maen nhw’n galluogi’ch ysgol, eich coleg neu’ch prifysgol i gopïo a rhannu darnau o rai o’n llyfrau a restrir gyda nhw heb orfod gofyn am caniatâd na phoeni am dorri hawlfraint.
Beth mae’n ei olygu i mi?
Mae’n galluogi’ch ysgol neu goleg i wneud copïau o unrhyw un o’n cyhoeddiadau print neu ddigidol a restrir gyda’r CLA a rhannu’r cynnwys hwnnw o fewn canllawiau’r drwydded â’ch disgyblion a’ch myfyrwyr. Mae’n hawdd ei ddefnyddio.
Fel rheol gallwch chi gopïo 5% neu bennod ar gyfer eich gwersi i gefnogi dysgu, gan arbed amser gwerthfawr i chi ar gynllunio. Yn ystod y cyfnod clo cynyddwyd y ganran hon felly dylech edrych ar wefan CLA i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ewch i wefan y CLA.
Sut alla i wirio a alla i wneud copïau o adnodd Atebol?
Mae’n hawdd gwirio a allwch chi gopïo’ch hoff adnodd! Teipiwch deitl neu awdur neu rif ISBN y cyhoeddiad yn offeryn chwilio Check Permissions y CLA i gael canlyniad ar unwaith.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr ar gyfer Addysgwyr!
Cyntaf i’r felin caiff falu! Byddwch y cyntaf I dderbyn gwybodaeth am adnoddau a gweithgareddau deniadol ac ysbrydoledig diweddaraf. Peidiwch â cholli allan ar unrhyw gynigion arbennig ac adnoddau am ddim!