• MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

Caneuon y Wladfa
Caneuon y Wladfa
£4.99

Disgrifiad byr

Dwy gân wreiddiol gan Robat Arwyn a Hector MacDonald sy'n dathlu'r berthynas ieithyddol a diwylliannol glòs sydd rhwng Cymru a Phatagonia.

Disgrifiad byr

Dwy gân wreiddiol gan Robat Arwyn a Hector MacDonald sy'n dathlu'r berthynas ieithyddol a diwylliannol glòs sydd rhwng Cymru a Phatagonia.

Details

Dwy gân wreiddiol gan ddau o gyfansoddwyr mwyaf blaengar Cymru a Phatagonia. Mae’r caneuon yn ddathliad o’r berthynas ieithyddol a diwylliannol glòs sydd rhwng Cymru a Phatagonia. Mae ‘Mae’r Awel yn ein Harwain’ wedi’i chyfansoddi gan Robat Arwyn, un o gyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru. Mae’r gân yn sôn am y garfan gyntaf o Gymry a hwyliodd ar y Mimosa o Lerpwl i Borth Madryn ym Mhatagonia yn 1865. Cyfansoddwr blaengar arall, sef Héctor MacDonald, a gafodd ei eni a’i fagu ym Mhatagonia a gyfansoddodd yr ail gân, ‘Can yr Enwau’. Mae’r gân yn dathlu’r berthynas hudolus rhwng yr iaith Gymraeg ag enwau lleoedd ym Mhatagonia. Mae’r geiriau cofiadwy ar gyfer y ddwy gân wedi’u hysgrifennu gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.

Additional Information

Oedran
Ages 11 - 16, Ages 16+ , Ages 5 - 7, Ages 7 - 11

Additional Information

  • Disgrifiad
  • Gwybodaeth Ychwanegol
  • Adolygiadau

Product Tags

Use spaces to separate tags. Use single quotes (') for phrases.